Sicrhau bod diwylliant, creadigrwydd a chymuned wrth wraidd Bae Colwyn!
Mae Dychmygu Bae Colwyn yn brosiect cyffrous sy’n ceisio harneisio diddordeb pobl yng ngorffennol unigryw’r dref i ysbrydoli a chysylltu pobl, grwpiau a busnesau drwy weithgareddau, arddangosfeydd a digwyddiadau diwylliannol ac arloesol.
Bydd cymorth ar gael i ddatblygu Colwyn Creadigol & Digidol, gan wneud Bae Colwyn yn ganolfan ar gyfer y Diwydiannau Creadigol. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i ddysgu, rhwydweithio a denu rhagor o fuddsoddiad.
Mae’r prosiect partneriaeth wedi ei ariannu tan fis Mawrth 2021 diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri, y Cynllun Lle Arbennig, Cyngor Tref Bae Colwyn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Ardal Gwella Busnes Colwyn.
Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy neu i gymryd rhan!
☎ 01492 574253