Mae’n bleser gan Colwyn Greadigol a Digidol gynnig arian drwy fwrsari datblygu proffesiynol.
- Ydych chi’n rhedeg busnes neu’n gweithio yn y diwydiannau creadigol?
- A oes angen cyllid arnoch ar gyfer eich datblygiad proffesiynol / mynd ar gwrs hyfforddi?
- Ydych chi’n byw neu’n gweithio ym Mae Colwyn, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos neu Mochdre?
Mae grantiau rhwng £350 a £1200 ar gael i ymgeiswyr cymwys.
Os mai’r ateb i bob un yw ydw neu oes, i gael rhagor o fanylion ynghylch cymhwyso a phroses cliciwch yma
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu gan banel bob 6 wythnos a byddant yn cael eu dyfarnu (yn ddibynnol ar fodloni’r meini prawf) ar sail cyntaf i’r felin hyd nes y bydd yr arian sydd wedi ei ddyrannu wedi dod i ben.
Mewn partneriaeth â Chefnogi Busnesau Conwy
Amanda.ballance@conwy.gov.uk / 01492 574128