Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i gomisiynu darn o waith drwy Brosiect Dychmygu Bae Colwyn ac yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor Tref sydd newydd ei ffurfio o dan arweiniad Tîm Cynllunio
Cymunedol Bae Colwyn. Pwrpas y comisiwn yw datblygu Brand Lle ar ran a chyda thrigolion a busnesau ardal Bae Colwyn
Gofyniad / Briff
Y Prif Ddeilliannaua ddisgwylir o’r comisiwn hwn yw:
- Hunaniaeth brand dwyieithog sy’n cynrychioli’r cymunedau unigryw o fewn Bae Colwyn ac un y bydd y cymunedau yn ei berchnogi
- Hunaniaeth brand lle sydd ar gael mewn amrywiaeth o ffurfiau electronig addas ar gyfer arwyddion, argraffu a defnydd ar-lein
- Dogfen canllaw brand
- Cynllun cyfathrebu gydag argymhellion ynglŷn â chefnogi lansio a gweithredu’r brand
- Delweddau i gefnogi’r brand
Gweithgareddau / gofynion allweddol y contract hwn fydd:
- Gweithio’n agos gyda Thîm Cynllunio Cymunedol Bae Colwyn
- Dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r tirlun naturiol, yr amgylchedd adeiledig, hanes cymdeithasol a chynnig unigryw ardal y prosiect
- Cynnal gweithgareddau a gweithdai ymgysylltu creadigol ac ystyrlon, gan gynnwys croestoriad eang o gymunedau Bae Colwyn, Uwch Colwyn, Hen Golwyn a Llandrillo-yn-Rhos, fel y ceir ymdeimlad o berchnogaeth cymunedol
- Cysylltu â’r sector cyhoeddus, busnesau a chynrychiolwyr y grwpiau trydydd sector
- Datblygu ystod o ddewisiadau brandio a dylunio
Llwythwch fwy o wybodaeth a dysgwch sut i wneud cais am gomisiwn Brandio Bae Colwyn yma