
Comisiwn Celf Gyhoeddus Amgylcheddol
Fel rhan o raglen partneriaeth Dychmygu Bae Colwyn, mae Cyngor Tref Bae Colwyn yn edrych i gomisiynu Gwaith Celf / Llwybr Cerfluniau.
Mae Dychmygu Bae Colwyn yn Gynllun Lle Gwych y Gronfa Dreftadaeth sy’n ceisio ennyn diddordeb pobl yng ngorffennol unigryw’r dref i ysbrydoli a chysylltu pobl, grwpiau a busnesau drwy weithgareddau, arddangosfeydd a digwyddiadau diwylliannol ac arloesol.
Nod y prosiect cyffrous hwn yw:
- Cyfrannu at gymeriad yr ardal, gosod arwyddbyst diwylliannol sy’n procio’r meddwl ac yn annog ymrwymiad a rhyngweithiad gan y gymuned ag ymwelwyr
- Mwy o ymwybyddiaeth o’r angen i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
- Cynnig cyfleoedd cydgynhyrchu creadigol ac sy’n ysbrydoli mewn addysg a chymunedau
Elfennau allweddol o’r prosiect yw:
- Dylunio, datblygu a gosod llwybr cerfluniau / celf i gynnwys o leiaf 5 gosodiad ar draws ardal y prosiect (Bae Colwyn, Hen Golwyn a Llandrillo-yn-Rhos)<0}
- Integreiddio a defnyddio plastig a deunyddiau eraill wedi’u hailgylchu
- Cyfres o weithdai i addysg a’r gymuned i ganolbwyntio ar gysyniad, dyluniad a modelu
Rydym yn croesawu diddordeb gan unigolion, sefydliadau a phartneriaethau / cydweithio gydag eraill sydd â phrofiad o gyflawni prosiectau tebyg.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: helen.jackson5@conwy.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw hanner dydd, 17 Mawrth 2021