Lansio Medi 2021.
https://tapemusicandfilm.co.uk/lansio-llwybr-dychmygu
Dewch i ddarganfod straeon cyffrous ac ysbrydoledig am dreftadaeth leol, gaiff eu cyfleu drwy reality estynedig, animeiddiad, ffilm, celf, ysgrifennu creadigol a phrofiadau sain.
Wedi eu datblygu dros ddwy flynedd, gweithiodd 334 o bobl leol, yn cynnwys haneswyr lleol ac ysgolion, gyda 22 o artistiaid lleol a hwyluswyr creadigol er mwyn datblygu 52 o ddarnau creadigol ar gyfer yr ap yn ystod 295 o weithdai cymunedol.
Eich her os ydych yn dymuno ei derbyn yw lawrlwytho’r ap am ddim a mynd ar eich antur eich hun i’r gorffennol. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r daith! Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd eu hamser, gwybodaeth, egni a chreadigrwydd i’r prosiect.
Datblygwyd Llwybr Dychymyg gan TAPE Community Music and Film a Reality Boffins fel rhan o Dychmygu Bae Colwyn. Fe’i harianwyd gyda diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref Bae Colwyn.