Cyfle i Ddatblygu a Rhwydweithio
Ydych chi’n gweithio fel hwylusydd creadigol/ celf gyda grwpiau / unigolion?
Oes diddordeb gennych i ddysgu am yr adnoddau newydd sydd ar gael a chyfleoedd preswyl?
Gwahoddir hwyluswyr creadigol i ymuno â Ticky Lowe i archwilio’r 12 casgliad o eitemau cyffwrdd newydd y mae hi wedi eu datblygu gyda Gwasanaeth Amgueddfeydd ac Archifau Conwy.
Mae’r casgliadau thema hyn wedi cael eu curadu’n ofalus i ysgogi sgwrs ac atgofion gydag unigolion a grwpiau mewn ystod o leoliadau gyda’r nod o hyrwyddo creadigrwydd, cyfathrebu a lles. Bydd y casgliadau ar gael i’w benthyg am ddim o Ganolfan Ddiwylliant newydd Conwy.
Bydd y sesiwn hon yn cynnig y cyfle i ymgyfarwyddo eich hunain â’r adnoddau hyn. Bydd Ticky yn rhannu syniadau ar gyfer eu defnydd a’r hyn a ddysgwyd yn y cyfnod peilot.
Bydd cyfle hefyd i ddod i wybod am gyfleoedd artistiaid preswyl a fydd yn rhan o gynllun cyffrous i ddatblygu casgliadau hel atgofion i edrych ar gyfnodau’r 60au, 70au a’r 80au.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â dychmygubaecolwyn@conwy.gov.uk neu glicio ar y ddolen hon i archebu eich lle https://www.eventbrite.co.uk/e/celf-atgofion-the-art-of-reminiscence-tickets-81347535669
28 Tachwedd, 10am – 12pm – Cerddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE, Berthes Rd, Hen Golwyn